• Cartref
  • Newyddion
  • Digwyddiadau
  • Amdanom ni
    • Cysylltwch â ni
    • Yr hyn a wnawn ni
    • Cwrdd â'r Tîm
  • Ysgolion
    • Arweinyddiaeth
    • Llythrennedd Corfforol
    • Cyfleoedd Cystadleuol
  • Cymuned
    • 0 - 3 Blynedd
    • Hamdden
    • Gweithgaredd Canfod
  • Effaith
    • 2017/2018
    • 2018/2019
  • Insport
  • Cartref
  • Newyddion
  • Digwyddiadau
  • Amdanom ni
    • Cysylltwch â ni
    • Yr hyn a wnawn ni
    • Cwrdd â'r Tîm
  • Ysgolion
    • Arweinyddiaeth
    • Llythrennedd Corfforol
    • Cyfleoedd Cystadleuol
  • Cymuned
    • 0 - 3 Blynedd
    • Hamdden
    • Gweithgaredd Canfod
  • Effaith
    • 2017/2018
    • 2018/2019
  • Insport
Cynnydd o’r ‘Simsan i’r Ffordd’ gyda chwrs am ddim i adeiladu hyder
  Cartref     Newyddion   Cynnydd o’r ‘Simsan i’r Ffordd’ gyda chwrs am ddim i adeiladu hyder
Cynnydd o’r ‘Simsan i’r Ffordd’ gyda chwrs am ddim i adeiladu hyder

Bydd preswylwyr Merthyr Tudful sydd am ddechrau seiclo ond heb yr hyder ar y ffordd yn cael eu haddysgu o’r sgiliau sy’n eu gwneud yn ddiogel mewn cwrs wyth wythnos am ddim.

Roedd peilot y prosiect ‘Simsan i’r Ffordd’ yn llwyddiannus pan wnaeth saith o bobl lwyddo i wneud cynnydd o seiclo o gwmpas trac athletau ysgol i daith ffordd 20 milltir. Canlyniad hyn oedd bod y cyd drefnwyr sef Heini Merthyr a Chlwb Triathlon Merthyr wedi cynllunio ail gwrs fis Medi hwn.

Cafodd y sesiynau cychwynnol eu cynnal yn Ysgol Uwchradd Afon Taf, gyda’r cyfranogwyr yn seiclo ar y trac i ddechrau cyn gadael tiroedd yr ysgol yn y pen draw am y byd mawr tu allan.

“Cafodd y cwrs hwn ei anelu at unrhyw un sydd am fynd yn ôl i’r cyfrwy a datblygu hyder wrth seiclo mewn ffordd ddiogel”, dywedodd Cydlynydd Chwaraeon Cymunedol Heini Merthyr, Jennifer Evans.  “Rydym ni hefyd am gael rhagor o bobl i seiclo ym Merthyr a defnyddio’n rhwydwaith grêt o lwybrau a’r ffyrdd o’u cwmpas.

“Bydd rhai aelodau o’r cwrs cyntaf yn arweinwyr eu hunain bellach gan helpu eraill i ddyfod yn feicwyr hyderus hefyd.”

Bydd yr ail gwrs, eto yn Ysgol Uwchradd Afon Taf, yn dechrau ddydd Sadwrn, 8 Medi am 9.30am. Bydd yr holl sesiynau’n digwydd ddyddiau Sul ac mae beiciau ar gael i bobl heb un yn barod.

Dywedodd Cadeirydd Clwb Triathlon Merthyr, Justin Smith: “Ar ôl hyfforddi’r grŵp cyntaf, allai ddim credu pa mor frwdfrydig a pharod oedden nhw i ddysgu. Gwnaethant oll lwyddo i gyflawni’r nod o reid beics 20 milltir gyda hyder.

“Y mae hefyd yn grêt i weld fod gymaint o’r grŵp wedi parhau i reidio a hyd yn oed wedi prynu beic newydd, gan edrych ymlaen at y cwrs nesaf.”

  • Os hoffech gymryd rhan yn y cwrs nesaf cysylltwch Activemerthyrtydfil@Merthyr.gov.uk neu merthyrtriclub@gmail.com neu ffoniwch 01685 725318.


  • By : Jon Baber
  • 28-Awst-2019

Latest Posts

YMWELWCH A PARC TAF BARGOED

YMWELWCH A PARC TAF BARGOED

  • By : Jon Baber
  • 05-Maw-2020
Y Cyngor yn ymgynghori ar strategaeth i wneud pobl yn iachach ac yn hapusach

  • By : Jon Baber
  • 02-Hyd-2019

Cysylltwch â ni

Eich Enw
Dy ebost
Eich Rhif Cyswllt
Pwnc
Rhowch Eich Neges

Diolch i chi am gysylltu â ni, byddwn yn cysylltu ag ASAP

Ignore

Dilynwch ni
Y newyddion diweddaraf
YMWELWCH A PARC TAF BARGOED

YMWELWCH A PARC TAF BARGOED

Y Cyngor yn ymgynghori ar strategaeth i wneud pobl yn iachach ac yn hapusach
Cysylltwch â ni
Uned 5,
Parc Busnes Triongl, 
Pentrebach, 
Merthyr Tudful, 
CF48 4TQ
01685 727493
  • E-bostiwch ni
Dolenni Cyflym
  • Am
  • Tudalen Logio
  • English
Copyright © 2021 Merthyr Tydfil County Borough Council. All Rights Reserved